Mae rhai ohonynt yn y Termau Hybu Iechyd (Gol. Delyth Prys) ISBN
1-84220-009-7. +AKM-6.00 gan Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru.
Fel arall, gallai John Sam Jones fod o gymorth os ydych angen eglurhad o
unrhyw derm - tydi o ddim yn gyfieithydd. Roedd o'n gweithio fel Rheolwr
Iechyd Rhywiol i Awdurdod Lleol Sir Ddinbych yn ddiweddar - mae'n siwr y
bydden nhw yn gallu eich cyfeirio ato.
-----Original Message-----
From: teulu lewis +AFs-mailto:m.e.lewis+AEA-BTCONNECT.COM+AF0-
Sent: 23 May 2002 22:42
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG+AEA-JISCMAIL.AC.UK
Subject: termau iechyd rhywiol
Rwyf wrthi'n gweithio ar ddeunyddiau hyfforddi i blant Blwyddyn 9 am
iechyd rhywiol. Oes cymorth i'w gael o rhywle? Hynny yw, oes termau
safonol wedi'u penderfynu a'u casglu er mwyn i mi gadw atynt - mae na
flynyddoedd lawer ers pan fum i ym Mlwyddyn 9 , neu beth bynnag oedd o
bryd hynny - ac mae'n ddrwg gen i ddweud nad yw fy merched 12, 17 a 19
oed fawr o help chwaith. Ddim eisiau trafod y fath faterion hefo mam,
sbo. Geirfa safonol ydw i ei heisiau - gallaf ymdopi hefo'r arddull+ACE-
Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gymorth neu gyfarwyddiadau - mae
Geiriadur yr Academi wrth fy ochr yn barhaus wrth gwrs.
Magi
|