Beth am y Cyd-Bwyllgor Trafod Telerau - i gyfleu'r gwahaniaeth rhwng
'negotiating' a 'discussing'?
Fel arall, mae'n well gen i 'negodi' na 'negydu' (swnio'n 'negyddol') ond
dwi'n cytuno mai hylleiriau ydi'r ddau.
----- Original Message -----
From: John Puw <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 24, 2002 9:52 AM
Subject: Re: Joint Negotiating Committee
> Yn y bon, "Cyd Bwyllgor Trafod" ydi hwn. Byddai'r ddau "Cyd" yn cymhlethu
> materion yn ddiangen o bosib.
>
> -----Original Message-----
> From: Wyn Hobson [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 24 April 2002 09:47
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Joint Negotiating Committee
>
>
>
> Gyda sawl collfarn gyhoeddus o eiddo John Roberts Williams yn atsain yn fy
> nghlust fewnol, rwyf wedi osgoi defnyddio'r geiriau 'negodi' a 'negydu'
ers
> blynyddoedd.
>
> Beth am 'y Cyd-Bwyllgor Cyd-drafod' ?
>
> Wyn
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Rhodri Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: 24 April 2002 09:24
> Subject: Joint Negotiating Committee
>
>
> > Unrhyw gynigion ar gyfer yr uchod?
> > Pwyllgor ydyw sy'n trafod telerau gweithwyr...
> >
> > Yr unig beth dwi wedi dod ar ei draws mewn adroddiadau eraill yw
> > "Cyd-bwyllgor Negodi".
> > A yw hyn yn gywir?
> >
> > Diolch yn fawr
> >
> > Rhodri
|