Beth am 'ymweliadau'. Os ydych yn cyfrif 'hits' i wefan , cyfrif nifer yr
ymweliadau a wnaed yr ydych.
Dyma ddyfyniad sy'n defnyddio 'ymweliadau' lle byddwn yn disgwyl gweld
'hits' yn Saesneg.
BBC ar-lein
http://www.bbc.co.uk/cymru/arolwg2001/09-arlein.shtml
" Mae’n cynnwys BBC Cymru’r Byd, y "papur newydd" dyddiol cyntaf erioed yn
Gymraeg, a ddathlodd ei ben-blwydd cyntaf ym mis Mawrth **gyda 2,225,000 o
ymweliadau** yn ystod y flwyddyn gyntaf, neu 50,000 o ymweliadau â
thudalennau yr wythnos, ffigurau sy’n llawer gwell na’r disgwyl. "
Credaf fod hwn yn well na 'taro' - dw i ddim erioed wedi taro gwefan (er dw
i wedi taro'r cyfrifiadur o'r blaen).
Muiris
----- Original Message -----
From: "D.Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 29, 2002 4:53 PM
Subject: Re: Hit(s)
> Beth am trawiad(au) am hit
>
> Dafydd Roberts [log in to unmask]
>
>
> Dafydd Tomos wrote:
> >
> > 'sgrifennodd Lowri jones:
> > > A wyr rhywun am gyfieithiad ar gyfer "Hit(s)" yng nghyd-destun
> > > gwefannau. Mae Geiriadur Yr Academi yn awgrymu "Cyfradd Taro"
> > > am "Hit Rate". Daw'r broblem gyda rhywbeth fel "123 hits" beth
> > > fyddai'r Gymraeg? "123 wedi taro"???
> >
> > Yn y Saesneg, mae'r diffiniad o 'hit' yn y cyd-destun yma wedi dod yn
> > gymysglyd iawn. Y gair cywir fyddai 'request' (gofyniad).
> >
> > --
> > Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
>
---
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.351 / Virus Database: 197 - Release Date: 19/04/02
|