Mae'r 'significant others' yn gysyniad pwysig yn y canllawiau newydd ar
gyfer amddiffyn plant yng Nghymru.
Mae'n cyfeirio at oedolion nad ydynt yn byw yng nghartref y plentyn ond
sy'n dod i gysylltiad agos â'r teulu ac a allai felly fod yn beryglus os
ydynt yn cam-drin plant.
Y frawddeg yn Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan sydd ar fin eu
cyhoeddi yw:
"manylion am aelodau arwyddocaol o'r teulu nad ydynt yn byw yng nghartref
y plentyn"
Mae'n debyg mai cyfeirio at hyn mae'r hyn sydd ar y ffurflen mae Wyn
wrthi'n ei chyfieithu i Gyngor Conwy ar hyn o bryd.
Credaf fod 'arwyddocaol' yn gyfieithiad cywir yma ac na ddylid ceisio'i
ddehongli fel 'unigolion etc. o bwys' - maent yn arwyddocaol am y gallent
fod yn risg i'r plentyn, nid am eu bod yn bwysig yn ei fywyd fel arall.
Efallai y byddai'n syniad i unrhyw gyngor/sefydliad arall sydd wrthi ar hyn
o bryd yn cyfieithu ffurflenni/canllawiau amddiffyn plant lleol yn
seiliedig ar Canllawiau Amddiffyn Plant Gymru Gyfan fynnu copi o'r ddogfen
honno er mwyn gofalu bod yr eirfa Gymraeg yn eu cyfieithiadau hwy yn
cyfateb iddi.
Delyth Prys
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, April 12, 2002 11:26 AM
Subject: Re: Significant Other
> 'Eraill/Rhai/Personau/Unigolion o Bwys nad ydynt yn y Teulu/Cartref'?
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, April 12, 2002 10:33 AM
> Subject: Significant Other
>
>
> > Dw i wrthi'n cyfieithu ffurflen Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n cynnwys
> > pennawd "Significant Others not in Household" (credwch neu beidio!).
> >
> > Unrhyw syniadau ar gyfer 'Significant Other'yn y cyswllt hwn?
> >
> > Wyn
> >
>
|