On Tue, 9 Apr 2002 17:00:08 +0100, Tim Saunders
<[log in to unmask]> wrote:
>Yn ôl beth roeddwn i wedi'i ddeall, mae'r llun wedi'i dynnu eisoes, ond bod
>rhywun arall yn cael gafael arno wedy e.e. drwy gymryd ffrâm lonydd o
>ddilyniant fideo. Mae angen gan hynny am wahaniaethu rhwng y ddau fath o
>broses. Awgrymiadau, cynigion, rhywun?
"llun-gipio" neu "ffrâm-gipio"?
>ON Ife term o fyd economeg yw 'add value'?
Efallai'n wreiddiol, ond yn ddiweddarach mae'r term wedi cael ei fabwysiadu
gan fyd busnes yn gyffredinol ac mae'n bla ar y byd technolegol. Clywir sôn
am "value-added systems" a "value-added networks" ("VANs" wrth reswm) ac yn
y blaen hyd syrffed. Ofnaf y dydd pan fydd Marks & Spencer yn ail-wampio'i
"Luxury range" i gynnig "Value-added Mince Pies" adeg y Nadolig!
Rwy'n gweithio'n aml gydag ymgynghoryddion o fyd technoleg-gwybodaeth ac un
o'r cwestiynnau maent yn gofyn yw "do you think I'm adding value?". Yr ateb
arferol yw "if by that you mean 'am I being useful?' the answer is ...".
|