Onid dyna yn union ydi trafod? Trwy drafod rydym yn cyrraedd cytundeb (neu
gall anghytundeb barhau hyd yn oed ar ôl y drafodaeth ddyfnaf). Gweler GYA:
Negotiate = Discuss. Be 'di'r pwynt o greu jargon pan fo geiriau hollol
ddealladwy, syml yn cyfleu'r ystyr i'r dim. Hyd yn oed i bobl "half and
half" Llambed!!
-----Original Message-----
From: Tim Saunders [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 April 2002 10:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Joint Negotiating Committee
Mae 'negydu' dipyn yn fwy cymleth fel cysyniad na 'thrafod', gan fod
rhywbeth yn cael ei benderfynu drwy gytundedb - er bod llawer o drafod yn
rhan anhebgor o'r broses, mae'n debyg. Gan hynny, ni ellir derbyn collfarnau
JRW yn yr achos yma. 'Negydu' amdani!
Tim
-----Original Message-----
From: Wyn Hobson [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, April 24, 2002 9:47 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Joint Negotiating Committee
Gyda sawl collfarn gyhoeddus o eiddo John Roberts Williams yn atsain yn fy
nghlust fewnol, rwyf wedi osgoi defnyddio'r geiriau 'negodi' a 'negydu' ers
blynyddoedd.
Beth am 'y Cyd-Bwyllgor Cyd-drafod' ?
Wyn
----- Original Message -----
From: "Rhodri Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: 24 April 2002 09:24
Subject: Joint Negotiating Committee
> Unrhyw gynigion ar gyfer yr uchod?
> Pwyllgor ydyw sy'n trafod telerau gweithwyr...
>
> Yr unig beth dwi wedi dod ar ei draws mewn adroddiadau eraill yw
> "Cyd-bwyllgor Negodi".
> A yw hyn yn gywir?
>
> Diolch yn fawr
>
> Rhodri
|