O Berwyn, ro'n i'n gobeithio y baset ti'n cynnig ei gyfieithu o imi!
Glenys
----- Original Message -----
From: Berwyn Jones <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 18, 2002 5:19 PM
Subject: Re: Transparency Review
> Ydy'r ymadrodd 'activity-based costing approach based on the full cost of
> activities' yn dryloyw, yn eglur ac yn osgoi ailadrodd?
>
> Weithiau, bydd jargon yn dallu'r callaf ohonom!
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Glenys Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, April 18, 2002 5:01 PM
> Subject: Re: Transparency Review
>
>
> > O ran diddordeb, dyma'r eglurhad o'r 'Transparency Review' a roddir fel
> > troednodyn yn y ddogfen rwy'n ei chyfieithu :
> >
> > A new system to provide for a transparent approach to costing research
and
> > other activities in higher education, the Transparency Review was
> > established following the 1998 Comprehensive Spending Review. The
> > Transparency Review is an activity-based costing approach based on the
> full
> > cost of activities, including teaching, research and all activities
funded
> > from both public and non-public sources. It aims to improve
accountability
> > for the use of public funds and also develops improved information for
> > institutional management.
> >
> > Mae pobl garedig y Cynulliad yn dweud wrtha i mai 'Adolygiad Cynhwysfawr
o
> > Wariant' yw eu term am y 'Comprehensive Spending Review', sy'n ddigon
> > rhesymol gan fod yna elfen o 'ailedrych' ar wariant o gyfnod i gyfnod.
> > Ofynnais i ddim iddynt (eto!) a oes ganddynt derm am y 'Transparency
> Review'
> > ond rwy'n rhyw deimlo bod 'Arolwg' yn nes ati efo hwnnw, h.y. cadw golwg
> ar
> > yn hytrach nag ailedrych ar/ailystyried (am wn i) ... Arolwg o
Dryloywder
> > roeddwn i wedi ei roi, ond braidd yn ych a fi yw'r term! Er nad ydy
> > 'eglurder' yr un peth yn union â 'transparency', os ydy pobl Bangor
eisoes
> > yn arfer 'Arolwg Eglurder' ac yn deall at beth mae'n cyfeirio, mae 'na
> dynfa
> > i ddilyn yr awgrym hwnnw.
> >
> > Mae perchenogion y ddogfen yn holi drosta i hefyd - mi ro i wybod os daw
> > goleuni pellach cyn y llinell derfyn bnawn fory! Ein golau rhown i'n
> gilydd.
> > Diolch yn fawr ichi i gyd.
> > G
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: davidbullock <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Thursday, April 18, 2002 2:30 PM
> > Subject: Re: Transparency Review
> >
> >
> > > Fe fu yna gyfnod pan oedd y gwasanaeth cyfieithu yn y Cynulliad yn
> ceisio
> > > cadw 'arolwg' i gyfleu 'survey', a defnyddio 'adolygiad' ar gyfer
> > 'review':
> > > dyw hi ddim yn anodd dychmygu cyd-destun lle bydd angen gwahaniaethu.
> > > 'Tryloywder' oedd y gair - gan y Llywydd beth bynnag - am
> 'transparency'.
> > >
> > > O ran diddordeb, flynyddoedd yn ôl, pan fyddai adroddiadau Arolygwyr
> > > Ysgolion Ei Mawrhydi yn cael eu cyfieithu yn y Swyddfa Gymreig, roedd
yr
> > > Arolygwyr Cymraeg yn ein hyfforddi i wahaniaethu rhwng 'arolwg/survey'
a
> > > fyddai'n cymharu sawl ysgol â'i gilydd ac 'arolygiad/inspection' a
> > fyddai'n
> > > rhoi un ysgol unigol, (druan), dan y chwyddwydr.
> > >
> > >
> > > ----- Original Message -----
> > > From: "J.P.M.Jones" <[log in to unmask]>
> > > To: <[log in to unmask]>
> > > Sent: Thursday, April 18, 2002 1:19 PM
> > > Subject: Re: Transparency Review
> > >
> > >
> > > > Mae'r ymadrodd 'arolwg eglurder' yn cael ei arfer yn gyson yn y
> > Brifysgol
> > > > ym Mangor mewn nifer o ddogfennau a ffurflenni, ac ar lafar.
> > > >
> > > > Prys
> > > >
> > > > --
> > > > ------------
> > > > J P M Jones MA PhD CChem FRSC
> > > > Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
> > > > Trefenai
> > > > Ffordd Caergybi
> > > > Bangor
> > > > Gwynedd
> > > > LL57 2PX
> > > >
> > > > tel +44 1248 382955/383013
> > > > ffacs +44 1248 383990
> > > >
> >
|