Fe fu yna gyfnod pan oedd y gwasanaeth cyfieithu yn y Cynulliad yn ceisio
cadw 'arolwg' i gyfleu 'survey', a defnyddio 'adolygiad' ar gyfer 'review':
dyw hi ddim yn anodd dychmygu cyd-destun lle bydd angen gwahaniaethu.
'Tryloywder' oedd y gair - gan y Llywydd beth bynnag - am 'transparency'.
O ran diddordeb, flynyddoedd yn ôl, pan fyddai adroddiadau Arolygwyr
Ysgolion Ei Mawrhydi yn cael eu cyfieithu yn y Swyddfa Gymreig, roedd yr
Arolygwyr Cymraeg yn ein hyfforddi i wahaniaethu rhwng 'arolwg/survey' a
fyddai'n cymharu sawl ysgol â'i gilydd ac 'arolygiad/inspection' a fyddai'n
rhoi un ysgol unigol, (druan), dan y chwyddwydr.
----- Original Message -----
From: "J.P.M.Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 18, 2002 1:19 PM
Subject: Re: Transparency Review
> Mae'r ymadrodd 'arolwg eglurder' yn cael ei arfer yn gyson yn y Brifysgol
> ym Mangor mewn nifer o ddogfennau a ffurflenni, ac ar lafar.
>
> Prys
>
> --
> ------------
> J P M Jones MA PhD CChem FRSC
> Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
> Trefenai
> Ffordd Caergybi
> Bangor
> Gwynedd
> LL57 2PX
>
> tel +44 1248 382955/383013
> ffacs +44 1248 383990
>
|