Goleuni ...
Pan oeddwn i'n fyfyrwraig dlawd bu criw ohonom yn teithio ar y cyfandir (ac
yn gwersylla bryd hynny wrth gwrs). Cyrraedd Genefa yn hwyr y nos, ar lwgu,
a chwilio am fwyd. Ffansïodd dau o'r criw y 'steak tartare' ar y fwydlen,
ac o'r siom o weld briwgig amrwd yn cael ei roi gerbron - 'mins' y byddwn i
wedi ei alw! Am y pryd hwnnw fe allech fod wedi defnyddio 'stecen friwgig
amrwd' ond mae'n debyg y byddai'r cogyddion yn dadlau bod mwy iddi na hynny
...
Yn y cyd-destun hwn - 'briwgig eog a chorgimwch amrwd' ? ... na, fyddai neb
yn ei fwyta. Gwell cadw at y 'tartar' efallai - 'eog mwg a chorgimwch
tartar'?
Glenys
----- Original Message -----
From: Gwen Rice <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, March 11, 2002 10:34 AM
Subject: tartare
Term sy'n ymwneud â bwyd. Diffiniad yr OED: '(of fish or meat) served raw,
typically seasoned and shaped into small cakes'. Dyna yn union sydd gen i
ar y fwydlen o dan sylw, ond at bysgod yn union y cyfeirir.
Mae Geiriadur yr Academi yn enwi 'saws tartar' a 'stecen dartar'. Dwi wedi
holi, a does a wnelo'r eitem o dan sylw ddim i'w wneud â 'saws tartar', a
dwi ddim yn siwr allai 'stecen dartar' fod ar ffurf diffiniad yr OED beth
bynnag. Ai 'tartar' fyddai'r term Cymraeg felly?
'Smoked salmon and prawn tartare' yw'r teitl sydd gen i.
Unrhyw syniadau (neu oleuni)?
Diolch
Gwen
|