>Beth fyddai'r cyfieithiad gorau am proof of identity? "prawf o bwy
>ydych chi"?
Oni fyddai "prawf o'ch enw" yn ddigon, h.y. prawf mai chi yw'r un a enwir?
>ddosbarthu (oes gair mwy synhwyrol am
>'deliver'?) parsel
Y gair cywir am "deliver" yw "danfon", a "delivery" yw "danfoniad". Pan
fyddaf yn "danfon rhwyun i'r orsaf", nid ei *anfon* yr wyf, ond mynd ag ef
yno/ei hebrwng yno. Mae'n anffodus bod nifer o bobl yn credu mai ffurf
"grand", fwy llenyddol, ar "anfon" ydyw, ond nid yw hynn'n gywir. Ar un
adeg, byddwn yn "danfon negesi" i gymdogion, h.y. mynd a+ phethau yr oeddynt
wedi eu harchebu o'r siop, i'w cartrefi.
Bruce
Dw i'n ofni bod y frwydr wedi'i cholli a bod defnyddio "danfon" yn ei ystyr
cywir yn mynd i arwain at gamddealltwriaeth, ond mae Bruce yn teimlo y dylen
ni ymgyrchu drosto.
Ann
|