Mi wnaeth ParcelForce drio ddosbarthu (oes gair mwy synhwyrol am
'deliver'?) parsel i mi ond 'doedd neb i fewn. Felly fe adawodd y
gyrrwr gerdyn dwy-ieithiog (chwarae teg) yn dweud "Mae'n ddrwg gennym
eich colli chi..." (We're sorry to miss you?).
Yn ffodus fe adawyd y parsel yn y ty drws nesaf ond mi es ymlaen i
ddarllen y cerdyn, oedd yn sôn am gasglu'r parsel o'r depo.
"Caniatewch un dirwrnod ar ôl derbyn y cerdyn hwn cyn dod i gasglu os
gwelwch yn dda, a dewch â'r cerdyn a pharwf o'ch hunaniaeth gyda chi"
(sic)
Beth fyddai'r cyfieithiad gorau am proof of identity? "prawf o bwy
ydych chi"? Dwi'n gwybod mai 'cerdyn adnabod' yw 'identity card'.
Ar ochr arall y garden mae yna fap er mwyn dangos y ffordd i'r 'depo',
gyda'r teitl "Sut i dodd o hyd i ni"
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|