Fe wnes i gyfieithu dogfen am Anghenion Addysgol Arbennig yn ddiweddar.
Roeddwn i, fel Glenys, wedi gweld "cyfnod pontio" am "transition period" ond
roedd dogfen flaenorol ar y pwnc yn defnyddio "cynllun trawsnewid" am
"transition plan". Fe wnes i holi'r Cynulliad ac fe ddywedon nhw mai
"cynllun trawsnewid" oedd eu term nhw. (Mae'n well gen i "cynllun pontio"
yn bersonol ond dyna fe!)
Cofion
Sian
----- Original Message -----
From: "Eirlys Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 06, 2002 5:10 PM
Subject: transitional plan
Rhyw fath o broses ar gyfer disgyblion (anghenion arbennig o bosibl?) wrth
iddyn nhw adael yr ysgol i fynd i'r coleg neu i weithio.
Oes yna derm cydnabyddedig, tybed?
Eirlys W
|