Mae gen i syniad bod hyn wedi bod *o leiaf* unwaith yn yr archifau, a'i fod
yn argraffiad diweddaraf Geiriadur yr Academi hefyd.
Bruce yn dweud na fyddai "cyfanfydeiddio" ddim yn iawn beth bynnag - oni bai
bod gair "cyfanfydaidd". O ran cywirdeb "creu" geiriau, byddai
"cyfanfydoli" yn well.
Mae hyn yn rhywbeth na welaf fawr o gyfeirio ato, ac eithrio yn y sgwrs
ynghylch
"sisters" ond byddai'n ddiddorol cael Delyth neu Bruce i son amdano
rywbryd - arfer
y Gymraeg wrth ffurfio geiriau newydd. Dyma pam nad yw Bruce yn cydnabod
"gwerthuso", oherwydd na fyddai'n codi'n naturiol ond o'r gair "gwerthus" -
a does 'na ddim un.
Ann
|