Mae gan bobl y TAW gyfres o 'Notices', ond dydyn nhw'n ddim mwy na thaflenni
gwybodaeth (er eu bod nhw'n cynnwys gwybodaeth am bethau y byddai'n rhaid
cydymffurfio â nhw). 'Hysbysiad' sy'n cael ei ddefnyddio am y rheiny.
Glenys
----- Original Message -----
From: Wyn Hobson <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, March 14, 2002 3:21 PM
Subject: Re: giving of notice
>
> Dw i'n meddwl mai swyddogaeth y 'notice' ym mhob achos sydd i'w gyfrif am
y
> gwahaniaethu. Mae 'Notice of Road Closure', 'Notice of Intended
Prosecution'
> yn rhybuddion o bethau sy'n debygol o fod yn eithaf amhoblogaidd efo'r
rhai
> sy'n eu derbyn; a gorchmynion yw 'Notice to Produce Documents', 'Notice
to
> Show Cause' ac yn y blaen. Felly, 'rhybudd' yw'r term arferol mewn
achosion
> o'r fath.
>
> Wyn
>
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: 14 March 2002 15:13
> Subject: Re: giving of notice
>
>
> > Diflannodd fy ymateb i gwestiwn Gwen cyn i mi weld sylw Wyn. O edrych
yng
> > ngeiriadur y Gyfraith, ceir 'hysbysiad' ryw 3-4 gwaith allan o 15 a
> > 'rhybudd' am y gweddill. Dyw hi ddim yn gwbl glir a yw Robyn Lewis wedi
> > gwahaniaethu'n ofalus rhyngddyn nhw nac ar ba sail y gwnaeth ef hynny.
Ond
> > mae'n deg dweud mai 'rhaghysbysiad' - nid 'rhagrybudd' - sydd ganddo am
> > 'preliminary notice'.
> >
> > Berwyn
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Thursday, March 14, 2002 2:51 PM
> > Subject: Re: giving of notice
> >
> >
> > >
> > > Yn y cyd-destun arbennig hwnnw, hysbysiad sydd orau, mae'n debyg!
> > >
> > > Wyn
> > >
> > >
> > >
> > > ----- Original Message -----
> > > From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
> > > To: <[log in to unmask]>
> > > Sent: 14 March 2002 14:40
> > > Subject: giving of notice
> > >
> > >
> > > > Cyd-destun: ffioedd Cofrestrydd am 'giving of notice' i briodi. Oes
> term
> > > > penodol? Rhoi hysbysiad? rhoi rhybudd?
> > > >
> > > > Diolch
> > > > Gwen
> > >
> > >
>
>
|