Cytunaf yn llwyr ag awgrymiadau Tim ynglyn ag adolygu termau'n gyson gan fod yr hinsawdd ieithyddol yn newid trwy'r amser.
Ga i hefyd ddweud, fel rhywun sydd newydd ymuno a'r cylch, y byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr iawn cael argraffiad o'r archifau oherwydd nid oes syniad gen i am beth sydd wedi ei drafod o'r blaen. Dwi'n sylweddoli wrth gwrs y gallwn droi ato ar y cyfrifiadur, ond mae hwylustod yn beth pwysig iawn yn y math yma o waith!
-----Original Message-----
From: Tim Saunders [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 08 March 2002 11:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: transitional plan
Hoffwn amenio'n frwd i sylwadau Delyth, ac hefyd ategu ambell i bwynt
fechan.
Mae'n fwy tebygol fod hwn yn gyfieithiad ddewiswyd wrth weithio ar frys ac o
dan bwysau - problem sy'n gyfarwydd i ni i gyd.
> Mea maxima culpa sawl gwaith drosodd!
Y cwestiwn wedyn, ac rydym i gyd wedi gorfod wynebu hyn hefyd, yw beth sy'n
digwydd pan fydd yn rhaid i ni ddyfynnu neu ddilyn dogfen arall lle nad ydym
yn hapus gyda'r cyfieithiad gwreiddiol. Mae cywirdeb cysyniadol ein
cyfieithiadau yn bwysig (llawer pwysicach na chysondeb termau)
> Amen, amen ac amen!
a cheir rhai sefyllfaoedd lle mae'n rhaid tynnu sylw'r sawl gomisiynodd y
cyfieithiad gwreiddiol at wallau pwysig.
> Bydd gofyn am ddoniau diplomataidd *neilltuol* weithiau, gan fod
ceidwadaeth gynhenid rhai ohonom yn ein gwneud yn amharod > i ystyried
newid y cyfarwydd, hyd yn oed er gwell. Oes gan gyd-weithwyr unrhyw
gynghorion arbennig am sut i eirio sylwaday > ayyb?
Yn yr achos hwn byddwn yn awgrymu:
1. bod y cyfieithydd ddaeth ar draws y broblem yn awr yn gofyn am ddiffiniad
manylach o'r broses dan sylw er mwyn deall yr ystyr yn well.
> Beth yw'r peth gorau i'w wneud os yw'r cyfieithydd yn anfodlon trafod y
mater?
2. os yw'n canfod mai 'cynllun pontio' fyddai'r cyfieithiad cywiraf yma ei
bod hi'n defnyddio'r term hwnnw gan ychwanegu rhwng cromfachau ar ei ôl
"(sydd hefyd wedi cael ei alw yn 'gynllun trawsnewid')" y tro cyntaf mae'n
digwydd yn ei chyfieithiad er mwyn i ddarllenwyr gysylltu'r term gyda'r term
arall yn y ddogfen flaenorol 3. bod y cylch trafod yn cael gwybod beth oedd
y penderfyniad fel bod cofnod ohono yn yr archif ar gyfer y dyfodol.
> Tybed a fyddai modd golygu ac argraffu archifau'r rhestr drafod yma, er
mwyn y bobl sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd? Os gwn > i a fyddai rhyw
gyfnodolyn safonol yn fodlon cynnwys colofn eirfaol yn tarddu o'r rhestr
yma?
Mae pwynt 2 uchod yn ddyfais y mae modd ei defnyddio mewn sefyllfaoedd
eraill lle nad yw rhywun yn hapus i gadw at derm sydd wedi'i ddefnyddio'n
flaenorol. Byddai'n dda clywed os yw aelodau eraill y cylch wedi canfod
ffyrdd eraill o ddelio gyda'r broblem hon.
> Mewn egwyddor, fe ddylai canllawiau Delyth fod yn ddigon rhwydd i'w
cymhwyso, gan fod termau ac ymadroddion cysefin yn > cael eu newid o
bryd i'w gilydd mewn sawl iaith fodd bynnag. Gan fod pwer i roi grym
cyfreithiol i eiriau Cymraeg gyda'r
> Cynulliad, tybed a fyddai modd sefydlu rhyw fath o drefn gogyfer ag
adolygu cywirdeb termau'm gyson a sicrhau bod rhai
> anghywir yn cael eu disodli?
Tim
________________________________________________________________________
This email has been scanned for all viruses by the MessageLabs SkyScan
service. For more information on a proactive anti-virus service working
around the clock, around the globe, visit http://www.messagelabs.com
________________________________________________________________________
Mae’r e-bost hwn yn gyfrinachol a’i unig bwrpas yw darparu gwybodaeth. Ni ddylid datgelu’r cynnwys i unrhyw berson anawdurdodedig. Ni ddylid ystyried fod yr Awdurdod yn hyrwyddo unrhyw farnau, casgliadau nac unrhyw wybodaeth arall sydd yn y neges nad ydynt yn berthnasol i fusnes swyddogol ACCAC, neu sy’n bersonol i’r un sy’n anfon y neges, ac nid yw’r Awdurdod yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb trostynt. Os y derbyniasoch yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, byddwch cystal â chysylltu â [log in to unmask], gan ddileu’r neges e-bost hwn o’ch systemau, ac unrhyw systemau storio eraill, heb oedi.
This email is confidential and is provided for information only.
The contents may not be disclosed to any unauthorised person. Opinions,
conclusions and other information contained in this message that do not relate to the official business of ACCAC, or are personal to the individual sender, shall not be understood as endorsed by the Authority and no liability will be accepted.
If you have received this email in error please reply to [log in to unmask] and delete the email immediately from your systems and other storage devices.
___________________________________________________________________
This message has been checked for all known viruses by the
MessageLabs Virus Scanning Service. For further information visit
http://www.messagelabs.com/stats.asp
|