bodloni gofynion = to satisfy/meet requirements
bodloni ar ofynion = to be satisfied with requirements
Mae tipyn o wahaniaeth rhwng ystyron y ddwy frawddeg. Na, does dim rhaid
dilyn 'bodloni' ag 'ar'. Yn o^l Geiriadur Prifysgol Cymru, "'Ei dilyn yn aml
gan yr arddodiaid 'i' ac 'ar'". ond yn yr wyth enghraifft a restrir yno, dim
ond un sy'n esiampl o 'bodloni i', a dim un enghraifft o gwbl o 'bodloni
ar'. 'Bodloni' heb arddodiad sydd yn y gweddill. Rhaid cofio, wrth gwrs, mai
geiriadur hanesyddol yw GPC.
Ceir 'bodloni' am 'to satisfy' a 'bodloni ar' o dan 'satisfied' - heb
unrhyw arddodiad arall - yng Ngeiriadur yr Academi.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Mark Nodine" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 07, 2002 4:00 PM
Subject: Re: MEET customer needs
> Berwyn Jones wrote:
> >
> > Mae gen i 'ateb/diwallu anghenion' ond 'bodloni gofynion' yn fy rhestr
i. Wn
> > i ddim beth yn union yw'r gwahaniaeth, chwaith!
>
> Mi feddyliais i ei bod hi'n gywir 'bodloni AR rywbeth' yn
> lle 'bodloni rhywbeth". Ydy'r ddau yn iawn neu ydw i
> wedi camddysgu?
>
> --Mark
>
|