At 08:45 05/02/02 -0000, you wrote:
>Yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru ...
>
>O dan 'gyrraf', ceir 'rhedeg, rasio, cyflymu, carlamu', ond y syndod (i
mi) yw'r gosodiad: "Yn y Deau fel rheol golyga 'gyrru' 'teithio'n gyflym'".
Mae'n ymddangos bod hynny'n fwy gwir am y Gogledd na'r De ...
>
>Berwyn
>
Nid wyf wedi edrych slipiau GPC i weld beth oedd y sail, ond cf. Tafodiaith
Nantgarw (Geirfa) 469 d.g. gyrru:
brysio: to hurry ee `Y^ch ch'n gyrru'n ofnafw ond y^ch chi?' `Ma isia gyrru
'nawr, i fod yn dre cyn daw Ifan o'r gwaith' `Ma isia gyrru i gwpla'r en
waith 'yn arno' i'.
Gareth
|