Mae 'Gramadeg y Gymraeg' Peter Wynn Thomas yn rhoi arweiniad ar hyn yn
adran 5.24:
----------------------------------
At gyfaint yr eir i'w gyfeiriad ac a gyrhaeddir y bydd y dibeniad i 'i' yn
cyfeirio amlaf ... Mynd i Landudno. Cerdded i'r môr...
...Gan mai fel pwyntiau y cysynnir am bobl, 'at' a ddefnyddir ...
Cyfeintiau yw lleoedd, ac felly 'i' a ddefnyddir...
----------------------------------
At bobl mae llythyrau yn cael eu hanfon nid i'r adeiladau ('cyfaint').
Felly byddai'n beryglus anfon llythyr "i'r Cynulliad" neu "i'r Adran
Twristiaeth" oherwydd byddai gan y staff esgus gwych dros eu hanwybyddu!
Prys
--
------------
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor
Gwynedd
LL57 2PX
tel +44 1248 382955/383013
ffacs +44 1248 383990
|