Yn rhesymegol, dylai 'canran' fod yn fenywaidd, ond dyw siardwyr iaith ddim
bob amser yn dilyn y 'rheolau'. Go brin bod fawr o neb yn dweud 'y canolfan'
er mai 'y man canol' yw ei darddiad. Yr unig eithriad amlwg yw arwyddion
ffyrdd lle penderfynwyd bod 'Canolfan Dinesig' yn llai o ran hyd na
'Canolfan Ddinesig'. Gweler yr arwyddion ar y ffyrdd i mewn i ganol Caerdydd
...
(Arferai 'bogglit mens!' fod yn ebychiad cyffredin ymysg cydfyfyrwyr i mi a
oedd yn astudio Lladin ym Mangor 'slawer dydd, ond rhag digio Prys neu
Delyth, ceidwaid y cylch hwn, gwell cyfrannu'r sylw hwn i'r cylch trafod
termau Lladin o dan y teitl 'The Latin Vocabulary of the Bangor District'.)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 07, 2002 3:20 PM
Subject: tirwedd
> Onid o'r stabl megis y daeth Geiriadur yr Academi a'r Termiadur Ysgol?
> 'y canran' sydd yn y Termiadur, ac yn y Geiriadur Mawr, ac yn Termau
> Ffiseg a Mathematg CBAC Hydref 1983!
> Duw a wyr pam. Ond mae Bruce, Dafydd Glyn a staff y Termiadur i gyd ym
> Mangor. Mind boggling!
>
|