teulu lewis:
> Fel y gweddill methu deall pam nad yw Bruce wedi clywed am y gem hon.
Wedi holi mae pawb yn y gornel fechan hon o'r swyddfa yn ymwybodol o'r gem - a ninnau yn cynrychioli Hwlffordd, Cwmtawe a Chaerdydd ( a dynion o ran hynny ).
Ac ni aeth yr un ohonon ni i ysgol i ferched chwaith.
Ac nawr wrth gwrs rwy'n dechrau poeni. Rwy'n siwr mod i wedi chwarae'r gem gyda'r plant ac wedi cyfeirio ati yn ddifeddwl fel "mochyn yn y canol". Ydw i wedi tanseilio y Diwylliant Cymreig trwy wneud?
|