On Fri, Feb 01, 2002 at 12:44:50PM -0000, John Puw wrote:
> Fedar rhywun esbonio i mi, mewn Cymraeg cryno, call, beth yw'r gwahaniaeth
> rhwng y Rhyngrwyd a'r We, a pham felly nad yw term cyfryngol gynganeddol
> megis "crwydro'r we" yn gymwys?
Y Rhyngrwyd yw'r cyfuniad o nifer fawr o rwydweithiau
cyfrifiadur. Er mwyn galluogi un rhwydwaith i ddanfon gwybodaeth yn
llwyddiannus i'r llall, mae pob cysylltiad i'r Rhyngrwyd yn gorfod
dilyn set o safonau yn disgrifio sut mae trosglwyddo data, sut mae
cyfeirio gwybodaeth i'r man cywir ayyb.
Mae'r We yn disgrifio y syniad, mwy na dim, ei fod hi'n bosib cysylltu
geiriau mewn dogfen i ddogfen arall sy'n berthnasol.
Dwi ddim yn meddwl bod hi'n bosib (na fod angen) creu cyfieithiad ar
gyfer 'surfing' neu 'browsing' hyd yn oed. Mae pawb yn dueddol o greu
term ei hunan heb feddwl am beth sydd yn 'swyddogol'. Mae'r term wedi
ei ddi-brisio yn y saesneg ers blynyddoedd a dwi ddim yn clywed llawer
o bobl yn defnyddio'r geiriau rhagor heblaw yn 'ironig'. Dyma sy'n
digwydd wrth i'r dechnoleg dreiddio i gymdeithas.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|