Lowri Jones wrote:
>
> Fel un sy'n gweithio yn y Virtual Learning Centre - Rhithganolfan Ddysgu, rwy'n awgrymu taw'r cyfieithiad Cymraeg ar gyfer Virtual Learning Enviroment fyddai Rhithamgylchedd Dysgu. Yr wyf wedi bod yn defnyddio Rhithamgylchedd Dysgu yn y deunyddiau yr ydym wedi bod yn eu cynhyrchu yma felly, er cysondeb, fe fyddai'n braf gweld eraill yn defnyddio'r un peth.
Mae Rhithamgylchedd Dysgu yn swnio'n iawn imi, ond
mae gen i broblem efo'r enw "Rhithganolfan Ddysgu".
Rhaid imi gyfaddef nad ydw i'n siarad Gymraeg fel mamiaith,
ond mae Rhithganolfan Ddysgu yn fy nharo fel petai'r
Ganolfan ei hun yn rhith yn lle'r dysgu sy'n rhith.
Wel, ar y llaw arall, gobeithio nad ydy'r dysgu yn
rhith 'chwaith. Tybio taw y pwnc yw bod y dysgu yn
defnyddio amgylchedd rhith mewn canolfan ddirweddol.
--Mark
|