Ai 'archwilio ariannol' yw ystyr 'audit' ac ai 'archwilio
rheolau/rheoliadau/deddfwriaeth' yw ystyr 'scrutiny' neu a oes rhyw
wahaniaeth arall rhyngddynt? 'Pwyllgor archwilio' a 'pwyllgor manylu' yw'r
ddau gynnig yng Ngeiriadur Terminoleg Trefniadaeth y Cynulliad, ond byddwn
i'n fodlon iawn derbyn 'pwyllgor craffu' am 'scrutiny committee', yn enwedig
os yw'r gwahaniaeth rhwng y ddau fath o bwyllgor yn ddigon clir.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 15, 2002 4:09 PM
Subject: Cyfieithu 'Scrutiny' ac 'Audit'
> Yma yn Uned Gyfieithu CBS Conwy, buom yn defnyddio'r cyfieithiad 'Pwyllgor
> Ymchwilio' am 'Scrutiny Committee'. Ond yn wyneb y ffaith fod y Cynulliad
> ac Archwilio Dosbarth ill dau'n defnyddio 'Pwyllgor Craffu' bellach, mae'n
> eithaf posibl y byddwn yn ail-drafod hyn.
>
|