Cwestiwn syml: beth yw ystyr 'rhaglen ar lein dda'? Ai'r rhaglen neu'r lein
sy'n dda? Osgoi amwysedd fyddai'r brif ddadl gen i dros ddefnyddio'r
cyplysnod.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Glenys Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 10, 2001 10:01 AM
Subject: Re: Ar-lein/Arlein/Ar lein
> Byddai'n braf cael arweiniad pellach gan dīm y Geiriadur. Mae dylanwad yr
> hen Saesneg 'na yn treiddio i bobman. Erbyn meddwl dyw hi ddim yn arferol
> rhoi cyplysnod gydag arddodiaid yn Gymraeg. H.y. fydden ni ddim yn rhoi
> cyplysnod wrth sgwennu 'chwaraeon dan do' (na 'chwarae dan do'), na
'Chymry
> ar wasgar' etc, er y byddem yn sgwennu 'profiad chwerw-felys'.
> Glenys
>
|