Ers talwm, gwyddai pobl yn reddfol mae'n debyg beth a sut i'w dreiglo.
Er enghraifft dyna i chi waith enwog gan Kate Roberts - Ffair Gaeaf.
Byddai rhywun yn meddwl ei bod hi o bawb yn deall hanfodion gramadeg y
Gymraeg. Ond wrth imi fynd heibio i Goleg Llysfasi, be welais i ond
arwydd yn cyhoeddi bod 'Ffair Aeaf' i'w chynnal.
Yng Nhyfansoddiadau ein Prifwyl, rhestrir gwahanol adrannau - er
enghraifft Adran Cymraeg, Adran Cerddoriaeth. Dyna a welir hefyd yng
ngholegau ein prifysgol. Ymddengys serch hynny fod ysgolion a
sefydliadau is i lawr yr ysgol yn meddwl mai nhw sy'n gwbod orau a cheir
ganddynt ac ynddynt ymadroddion fel Adran Gymraeg, Cyfadran Wyddoniaeth
etc.
Yn Elfennau Gramadeg Cymraeg Stephen J, does dim byd am dreiglo
berfenwau ar ôl enw unigol benywaidd ond dyna mae pawb yn ei wneud
heddiw. Mae'n ymddangos i mi fod yna duedd bellach i dreiglo pob un dim
sy'n dilyn enw unigol benywaidd a dadlau fod yr ail air - boed yn enw
neu'n ferfenw yn ansoddeiriol ei swyddogaeth. Beth am hen gystrawen y
genidol?
Come back Dr Kate ddweda'i i!
John
|