Mi 'dw i'n un o'r bobl 'wallgo' hynny sydd wedi cael y cyfle i wneud yr
'arforgamp' yma. Fersiwn oedolion o grwydro a dringo creigie a neidio i'r
mo^r yw e, yr union run fath a^ phan oeddwn ni'n blant, ond eich bod yn
ddiogel yn eich helmet a'ch siwt wlyb. Ddim yn meindio'r cyfieithiad, ond
hwyrach ei fod braidd yn amwys. Peth yw, 'dw i'n gwybod bod y cwmni, Twr y
Felin, yn Nhyddewi wedi rhoi enw Cymraeg arno cyn hyn yn eu taflenni
hysbyrwydd a'r papur newydd i dwristiaid. Mi fyddwn i'n eu ffonio nhw, neu
Barc Cenedlaethol Sir Benfro (01437 764636) a gofyn am eu hadran Hamdden,
neu ofyn i un o'r siaradwyr Cymraeg sydd wastad (bron) yn ateb y ffon i
chwilio am gyfieithiad o'r enw.
> -----Original Message-----
> From: Bullock, David (OCG) [SMTP:[log in to unmask]]
> Sent: Thursday, November 15, 2001 1:27 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Coasteering
>
> Mae un o ddisgyblion blwyddyn 7 ysgol fy ngwraig wedi gofyn beth yw
> 'coasteering' yn Gymraeg.
> Dyma ddisgrifiad un ganolfan antur yn Sir Benfro o 'coasteering':
> Coasteering is our wacky combination of rock climbing, scrambling,
> swimming and cliff jumping. After a briefing on safety and technique it's
> time to head out for the wide blue yonder, working out the best route with
> you team mates and dodging the waves as you go. When the going gets too
> steep, it's time to jump and swim the short distance to the next easy
> climbing. As you climb around the cliffs there are caves to explore and
> wildlife to see.
> Ond beth ddwedwn ni wrth y crwt bach?
Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir
yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw
hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of
the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
only. Its contents may be confidential. If you have received this message in
error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying,
disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
|