Beth fyddai'r Ffrancwyr yn ei alw'm 'polysémique', sbo.
Tim
-----Original Message-----
From: teulu lewis [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Monday, November 12, 2001 9:52 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: arwyddion ffyrdd
oes raid gwahaniaethu - arwydd aml-bwrpas ardderchog yn yr achos hwn,
credaf!
magi
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, November 12, 2001 09:12
Subject: Re: arwyddion ffyrdd
> Y mae rhywbeth i'w ddweud dros wahaniaethu. Yng Ngogledd Rhydychen,
mae'r
> llwybrau seiclo a'r palmentydd yn gweu dros ei gilydd o dro i dro wrth
> gerdded i fyny drwy Drehafod, ac mewn mannau maenr yn mynd drwy lwyni
a
> pherthi. Yn y lleoedd hynny, mae arwyddion yn dweud 'BEWARE
PEDESTRIANS'.
> Beth yw'r ystyr, 'Gwyliwch rhag cerddedwyr', ynteu 'Gwylich,
gerddedwyr!'.
> Mae profiad chwerw yn f'ysgogi i ffafrio'r ail. Ond fe fyddai'n braf
cael
> sicrwydd.
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Crowe, Richard (OPO) [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: Friday, November 09, 2001 10:33 AM
> To: [log in to unmask]
> Subject: arwyddion ffyrdd
>
>
> Tybed beth yw barn y cylch ar ddefnyddio'r treglad meddal cyfarchiol
ar
> arwyddion ffyrdd? Beth sy'n gywir am (Drivers of long vehicles phone
before
> crossing?
>
> Gyrwyr cerbydau hir ffoniwch cyn croesi
>
> neu
>
> Yrwyr cerbydau hir ffoniwch cyn croesi
>
>
> Beth am arwyddion sydd fel petaent yn cyfarch wrthrychau di-fywyd?
E.e.
> (Goods vehicles stop if directed)
>
>
> Cerbydau nwyddau stopiwch os gofynnir i chi
>
> neu
>
> Gerbydau nwyddau stopiwch os gofynnir i chi
>
>
> Ydy'r ddwy linell uchod yn dweud rhywbeth gwahanol?
>
>
> Oherwydd y rheolau sy'n pennu fformat arwyddion ffyrdd, nid yw'n
bosibl
> defnyddio 'dashes' 'colons' etc.
>
>
> A oes angen y treiglad meddal cyfarchiol ai peidio? Os nad oes ei
angen,
> beth yw'ch rhesymau?
>
> Diolch am eich cymorth.
>
|