Synnwn i ddim nad yw'r arbenigwyr hwythau wedi colli golwg ar ystyr
wreiddiol y term.
Tybed a fyddai 'Pensiynau a Brynir' yn ddigon agos ati ac yn ddigon amlwg
wahanol i'r rhai galwedigaethol?
Mae'n debyg, gyda llaw, bod y pensiynau 'stakeholder' a drafodwyd dro yn ôl
yn rhai 'money purchase' hefyd.
Diolch am bob awgrym - 'Haearn a hoga haearn' fel y bydd Mam yn ei ddweud!
Glenys
----- Original Message -----
From: Andrew Hawke <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, October 17, 2001 2:37 PM
Subject: Re: Money Purchase Pension
> Fel dw i'n deall pethau, math o gynllun yw 'Money Purchase Pension' lle
> dach chi'n talu swm bob mis sy'n cael ei fuddsoddi, fel mae Dean wedi
> esbonio, er mwyn creu swm o arian erbyn i chi ymddeol y byddwch chi'n
> GORFOD ei ddefnyddio i brynu 'annuity' (blwydd-da^l, yn o^l Bruce) sydd
> wedyn yn darparu 'pensiwn' am weddill eich oes.
>
> Prynu'r blwydd-da^l yw'r 'money purchase' am wn i (h.y. dach chi ddim yn
> cael cymryd yr arian fel 'lump swm' ac eithrio cyfran bach ohono). Mae hyn
> yn wahanol i bensiynau 'galwedigaethol' lle dach chi'n prynu blynyddoedd o
> wasanaeth, mewn gwirionedd.
>
> Dw i'n siwr bod arbenigwyr yn y maes yn gallu esbonio hyn yn well!
>
> Andrew
>
>
> -=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-
> Andrew Hawke [log in to unmask] (01970)627513 (+44)1970 627513 (fx627066)
> Golygydd Cynorthwyol/Rheolwr Systemau Asst. Editor/Systems Manager
> Geiriadur Prifysgol Cymru University of Wales Dictionary
> Llyfrgell Genedlaethol Cymru National Library of Wales
> Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH, U.K.
> URL: http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/
|