A bod yn deg, y mae tuedd hefyd gan rai athrawon i athrawiaethu ...
Tim
-----Original Message-----
From: teulu lewis [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Monday, October 15, 2001 5:35 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: cyfle cyfartal
Diolch am y cynnig am visioning Berwyn - rwyf wedi gweld y term mewn sawl
dogfen yn ddiweddar ac wedi methu ei gyfleu yn ddigonol (ond yn fy ffordd
unigryw fi fy hunan wrth gwrs) Yn amlwg dyma'r ffasiwn diweddaraf - rhaid i
ni gyd weld gweledigaethau'r dyddiau hyn. Dwn i ddim amdanat ti ond byddwn
i'n gwerthfawrogi llai o weledigaethu a mwy o fynd i'r afael...Ar y llaw
arall fallai byddai cael wythnos i ffwrdd mewn caffi cannabis yn gwneud byd
o les i mi ac yn cael effaith aruthrol ar fy ngwaith ym maes gofal ac addysg
plant bach - drycha be wnaeth opium i Sherlock Holmes.
Cofion Magi
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 15, 2001 04:56
Subject: cyfle cyfartal
> Rwy'n cymryd bod y mwyafrif o'r rhai sy'n perthyn i'r cylch cyfrin hwn yn
> gwybod am fodolaeth dau gyhoeddiad y Comisiwn Cyfle Cyfartal, sef
'Cyfieithu
> Cydraddoldeb' a'r 'Rhestr o Dermau Safonol Cymraeg ym maes Cyfle
Cyfartal',
> ond wrth gyfieithu dogfen yn y maes yn ddiweddar fe ddes ar draws dyrnaid
o
> ymadroddion digon astrus. Gan fy mod i wedi cael cyngor Gwen Awbery
> (Canolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd) a Nia Morgan (Y Comisiwn
Cyfle
> Cyfartal), hoffwn gyflwyno'r cyfieithiadau isod er gwybodaeth:
>
> 1. Gender-disaggregated statistics = Ystadegau sydd wedi'u dad-agregu ar
> sail rhyw
> 2. Engendered budgets = Cyllidebau sy'n cymryd anghenion y ddau ryw i
> ystyriaeth
> (Mae'n debyg bod yma rywfaint o gamddefnyddio ar y berfenw Saesneg 'to
> engender' ac efallai y byddai 'gendered' wedi bod yn well dewis, ond
> 'engendered' yw'r gair a arferir bellach.)
> 3. Yn yr un maes, cafwyd y pennawd 'Visioning'.Er na fydda i'n bathu
> geiriau'n aml, cynigiais 'gweledigaethu' ar batrwm 'gweinidogaethu', a hyd
> yn hyn does neb wedi cynnig ei well ...
>
> Hyn, fel y dywedais, er gwybodaeth - a diolch i Gwen a Nia am eu cyngor!
>
> Berwyn
>
|