Rhag i Dafydd anobeithio'n llwyr, gwell ei sicrhau nad oes gan y Saesneg,
ychwaith, gysondeb llwyr o ran sillafu a bod digon o enghreifftiau'n bod
ynddi lle mae'r orgraff yn ddigon clir ond nad yw dyn yn gwybod sut mae
ynganu'r gair! (Cafwyd trafodaeth ar eiriau o'r fath ar Radio 5 yn
ddiweddar, ond alla i ddim cofio pa rai oedden nhw.) Dim ond perffeithydd
fyddai'n disgwyl cysondeb llwyr, a dyw iaith ddim eisiau bod yn or-gyson -
mae'n beth byw ... Trowch i'r gyfrol ddifyr (ond allan o brint) The Right
Word in the Right Place, a gyhoeddwyd gan y Reader's Digest ym 1985, i weld
ymdriniaeth ddifyr iawn â gwahanol raddau o gywirdeb o ran sillafu a
defnyddio geiriau Saesneg. (Rhowch gynnig ar wefan abebooks.com os hoffech
brynu copi ail-law ohono.)
Os ca i hollti blew, onid 'camddefnyddio acenion' ddylai fod yn deitl ar y
drafodaeth hon. Mae i 'cam-acennu' ystyr go wahanol!
Berwyn
|