|
|
Muiris:
> Credaf mai 'Anfon' sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf ar gyfer 'Submit'.
Weithiau mae'n briodol defnyddio gair perthnasol i'r cyd-destun - e.e.
"derbyn" neu "chwilio".
Mae google yn defnyddio "blaenorol"/"nesaf" tra bod Opera yn dewis
"yn ol"/"ymlaen". Mae "<<" a ">>" yn eithaf poblogaidd hefyd.
Elin:
> A allai rhywun roi cyngor o ran cyfieithu'r rhain (botymau rhaglen gyfrifiadurol)?
> h.y. mae angen "label" i bob 'botwm' a hefyd maen nhw'n codi mewn cyd-destunau fel:
> Click on the return button to submit your answer.
>
> A fyddai "cyflwyno"'n iawn am 'submit' - yn y ddau gyd-destun?
> Previous - Blaenorol / Cynt?
> Return - ?? fel yn y soned gan TH Parry-Williams?
|
|
|
|