Hen air digon afiach yn fy marn i yw 'erthyl' i gyfeirio at gyfansoddair
sydd yn berffaith gywir o ran ei ramadeg. Efallai wir ei fod yn
annaturiol ac na fyddai Cofis Dre na ffermwyr Gwynedd byth yn ei
ddefnyddio. Ond mae pob un ohonom yn newid ein ffordd o siarad wrth
sgwrsio efo gwahanol bobl. Er enghraifft, basai myfyrwyr yn defnyddio
rhai patrymau, cywasgiadau ac ati wrth siarad efo ffrindiau agos na
fasen nhw byth yn eu defnyddio wrth drafod gwaith efo darlithwyr.
Mae'r frawddeg: "This section of the Book of Exodus deals with the
inculcation of moral precepts." yn addas yng nghyd-destun trafod
diwinyddiaeth efo myfyrwyr ar gwrs gradd, ond byddai'n gwbl anaddas mewn
Ysgol Sul i blant.
Mae'r termau mae gwyddonwyr yn eu bathu i ddisgrifio byd y Wennol er
enghraifft yn cael eu llunio am fod rhaid wrthynt, ac eto pwy o blith
pobl gyffredin America fyddai'n eu defnyddio yn ei sgwrsio pob dydd?
Onid oes lle i dermau technolegol newydd - ac anghyfarwydd ar y cychwyn
- na fydd y werin bobl yn debygol o'u defnyddio?
John.
|