Dipyn bach felly, mae'n debyg, neu'n dawtolegol, neu'r ddau. Lleoliad y
ffynhonell sy'n bwysig yn y cyd-destun yma, fodd bynnag.
A beth sy'n bod ar y camel? Os nad yw'n greadur rhy berth (onid i gamel
arall) nac yn siriol, mae'n gwneud ei waith yn burion.
Tim
-----Original Message-----
From: Kenneth Owen [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Tuesday, October 02, 2001 3:16 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: outsourcing
Fel y byddai Dafydd Glyn Jones yn dweud, y mae 'allfynonellu' yn gamel o
air. I mi, mae'n ymgais i greu gair pan nad oes dim angen gwneud hynny o
gwbl. Hyd yn oed petai raid defnyddio dau neu dri o eiriau i gyfleu ystyr
'outsourcing', y mae'n ganmil gwell na bathu gair na fydd neb bron yn ei
ddefnyddio yn y pen draw.
Oni fyddai 'prynu'n allanol' yn well cynnig, ynteu a yw hynny'n rhy benodol?
Ken Owen
Marian-glas
-----Original Message-----
From: John D Williams <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<[log in to unmask]>
Date: 02 October 2001 14:52
Subject: outsourcing
>Mewn Astudiaethau Busnes Safon Uwch, ceir
>
>"Such outsourcing of operations may include marketing research,
>recruitment and product development and gives the firm
>greater flexibilty to meet changing market conditions."
>
>Os oes rhaid bathu term, beth am allffynonellu? Oes gan rywun
>wrthwynebiad?
>
>John.
>
|