On Fri, Sep 14, 2001 at 02:36:40PM +0100, Elin Haf Gruffydd Jones wrote:
> O safle BBC Cymru'r Byd
>
> "Roedd ganddyn nhw bapurau hunaniaeth ffug ac roedd gan o leia un drwydded
> peilot ffug."
Mae hwnna yn fy atgoffa i am cyn gyd-weithiwr o Sais oedd yn datblygu
gwefan dwyieithiog. Roedd wedi gwneud ymdrech deg i ddysgu 'tipyn
bach' o Gymraeg a wedi prynu geiriadur bach Collins.
Roedd e wedi creu ffurflen ymateb a gosod botwm ar y gwaelod i ddanfon
y wybodaeth. Fe gyfieithodd y botwm 'Submit' i 'Ymostwng'.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|