clywch clywch!!!
Mae 'sister' yn cyfateb a 'charge nurse' ond, ac ystyried e.e. bod modd i
un fod ar raddfa F ac un arall ar raddfa G, mi fydd eu swyddi a'u
dyletswyddau ychydig yn wahanol (sy'n esbonio yr ystod tal yr ydych yn
cyfeirio ato).
"Crowe, Richard (OPO)" wrote:
>
> Rwy'n credu bod Delyth eisoes wedi gwneud y pwynt yn ddigon eglur bod
> gwahaniaeth rhwng iaith arbennig ac iaith gyffredinol. Mewn cyd-destun
> technegol mae angen term. Mewn cyd-destun anhechnegol mae gair cyffredin yn
> gwneud y tro. Mae anghenion y ddau yn wahanol. Mewn cyd-destunau
> technegol, er mwyn hwyluso cyfathrebu, mae'n ddymunol sefydlu term cywir
> sy'n cael ei ddefnyddio a'i ddeall gan bawb yn y maes. Mewn cyd-destunau
> anffurfiol neu lafar, nid oes yr un rhaid i gydnabod un gair yn unig, a
> rhydd i bawb ei ddewis. Mater o'r hyn sy'n addas o dan yr amgylchiadau yw
> hi.
>
> Yn yr achos hwn rhaid inni fod yn siwr beth yw ystyr 'charge nurse'. Mae
> ambell un wedi awgrymu bod 'charge nurse' yr un peth â 'sister', ond a yw
> hyn yn wir bob tro? Mewn dogfennau gan yr NHS, mae'n amlwg bod 'charge
> nurse' a 'sister' ar yr un raddfa (Graddfa G), ond a ydyn nhw'r un peth?
> Cf. "all NHS Nurses will receive a 3.7% pay increase, taking a newly
> qualified nurses pay to a minimum of £15,445, while Senior Nurses such as
> Sisters and Charge Nurses will now earn between £21,605 and £26,290."
> Ymddengys eu bod yn swyddi gwahanol. Ond os ydyn nhw mor debyg fel bod pobl
> ar lafar yn cyfeirio atynt fel 'sister' - popeth yn iawn. Mae pobl hefyd yn
> dweud bod nhw wedi gweld rhywbeth am yr "Asembli" ar y "telifisiwn" - ac
> mewn sgwrs anffurfiol mae hynny'n gwbl addas i rai siaradwyr. Ond petai
> angen cyfleu'r darn Saesneg uchod yn Gymraeg, a fyddai 'sister' yn gwneud y
> tro am 'Sister' a 'Charge Nurse' (a) o safbwynt cywirdeb cynnwys; (b)o
> safbwynt cywair?
>
> Mae llawer o dermau Cymraeg newydd yn mynd i swnio'n ddieithr inni am nad
> ydyn ni'n gyfarwydd â'u clywed a'u gweld, ond os yw proffesiynau yn mynd ati
> i safoni termau a'u defnyddio, dw i ddim yn gweld llawer o bwynt mewn ceisio
> ailddyfeisio'r olwyn, oni bai fod sbocsen wedi torri.
>
> Richard
>
> Dylid cymryd mai datganiadau neu sylwadau personol yw'r uchod, ac nid
> o reidrwydd datganiadau neu sylwadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol
> Cymru,
> gan unrhyw ran ohono neu gan unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.
>
> -----Original Message-----
> From: Tim Saunders [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 03 July 2001 15:36
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: FW: Charge Nurse
>
> Nid wyf yn hoffi 'gwr sister' o gwbl. Onid oes ffordd well o fynegi hyn?
> Drueni nad oes terfyniad gwrywaidd yn cyfateb i '-es', fel yn
> 'plismon/plismones'.
> O ran diddordeb, gan na fyddaf yn arfer treulio amser mewn ysbytai, beth a
> ddywedir ar lafar yn yr ysbytai sy'n arddel y Gymraeg?
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Frank Viges [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: Tuesday, July 03, 2001 3:24 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: FW: Charge Nurse
>
> Beth os yw'r cywair yn llafar *ac* yn dechnegol? Beth sy'n bod ar 'sister'?
> Pam nad yw'n gwneud y tro? Ac os yw'r sister yn ddyn, beth sy'n bod ar 'gwr
> sister', ar batrwm 'gwr gweddw'?
> Frank
>
> >From: Delyth Prys <[log in to unmask]>
> >Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> > including <[log in to unmask]>
> >To: [log in to unmask]
> >Subject: Re: FW: Charge Nurse
> >Date: Tue, 3 Jul 2001 15:04:02 +0100
> >
> >Oes yna ddryswch fan hyn rhwng cyweiriau llafar a thechnegol? Mae'r iaith
> >lafar yn naturiol gyfoethog mewn enwau a disgrifiadau, ond mewn cyd-destun
> >manwl, technegol, rhaid cael un term safonol.
> >Felly, er bod 'sister' yn derm wedi'i hen arfer ar lafar, nid yw'n gwneud y
> >tro mewn cyd-destun technegol, yn enwedig pan fo'r nyrs yn ddyn! Arferir
> >'prif weinyddes nyrsio' mewn cyd-destun technegol ers amser bellach, ac
> >mae'r trydydd gair ('nyrsio') yn cael ei ollwng yn aml os yw'r cyd-destun
> >yn
> >eglur.
> >Hefyd, mae'r term prif weinydd(es) nyrsio wedi hen ennill ei blwyf mewn
> >ysbytai sy'n arddel y Gymraeg, a dydi hi ddim yn egwyddor dda i geisio
> >chwarae o gwmpas gyda thermau sydd wedi'u sefydlu eisoes.
> >Delyth Prys
> >
> >----- Original Message -----
> >From: Tim Saunders <[log in to unmask]>
> >To: <[log in to unmask]>
> >Sent: Tuesday, July 03, 2001 2:17 PM
> >Subject: Re: FW: Charge Nurse
> >
> >
> > > Pump sillaf yn lle dwy. Hmmm .......
> > > Pa mor gyffredin yw'r term yma ar lafar, 's gwn i?
> > >
> > > Tim
> > > -----Original Message-----
> > > From: Delyth Prys [mailto:[log in to unmask]]
> > > Sent: Tuesday, July 03, 2001 9:18 AM
> > > To: [log in to unmask]
> > > Subject: Re: FW: Charge Nurse
> > >
> > >
> > > Y term yw prif weinydd nyrsio. Fe'i gwelir yn Termau Nyrsio a
> >Bydwreigiaeth
> > > (cyhoeddwyd PC Bangor 1997).
> > > Delyth Prys
> > >
> > > ----- Original Message -----
> > > From: Mathias, Jayne (HPD) <[log in to unmask]>
> > > To: <[log in to unmask]>
> > > Sent: Tuesday, July 03, 2001 7:59 AM
> > > Subject: FW: Charge Nurse
> > >
> > >
> > > > Beth yw'r term am yr uchod os gwelwch yn dda?
> > > > Jayne Mathias
> > > > Adran Strategaeth Iechyd y Cyhoedd/Public Health Strategy Division
> > > > Cynulliad Cenedlaethol Cymru/National Assembly for Wales
> > > >
> > > > Rhif ffôn: 029 2082 5933
> > > > Rhif ffacs: 029 2082 5971
> > > > E-bost: [log in to unmask]
> > > > <mailto:[log in to unmask]>
> > > >
> > > > Dylid cymryd mai datganiadau neu sylwadau personol yw'r uchod, ac nid
> >o
> > > > reidrwydd datganiadau neu sylwadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol
> > > Cymru,
> > > > gan unrhyw ran ohono neu gan unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef./
> >Any
> >of
> > > > the statements or comments made above should be regarded as personal
> >and
> > > not
> > > > necessarily those of the National Assembly for Wales, any constituent
> >part
> > > > or connected body.
> > > >
> > > >
> > > >
> > > > -----Original Message-----
> > > > From: Mathias, Jayne (HPD)
> > > > Sent: 03 July 2001 07:57
> > > > To: [log in to unmask]
> > > > Subject: Charge Nurse
> > > >
> > > > Beth yw'r term am yr uchod os gwelwch yn dda?
> > > >
> > > > Jayne Mathias
> > > > Adran Strategaeth Iechyd y Cyhoedd/Public Health Strategy Division
> > > > Cynulliad Cenedlaethol Cymru/National Assembly for Wales
> > > >
> > > > Rhif ffôn: 029 2082 5933
> > > > Rhif ffacs: 029 2082 5971
> > > > E-bost: [log in to unmask]
> > > > <mailto:[log in to unmask]>
> > > >
> > > > Dylid cymryd mai datganiadau neu sylwadau personol yw'r uchod, ac nid
> >o
> > > > reidrwydd datganiadau neu sylwadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol
> > > Cymru,
> > > > gan unrhyw ran ohono neu gan unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef./
> >Any
> >of
> > > > the statements or comments made above should be regarded as personal
> >and
> > > not
> > > > necessarily those of the National Assembly for Wales, any constituent
> >part
> > > > or connected body.
> > > >
> > >
>
> _________________________________________________________________________
> Get Your Private, Free E-mail from MSN Hotmail at http://www.hotmail.com.
--
----------------------------------------------------------------
Gwerfyl Wyn Roberts Gwerfyl Wyn Roberts
Ysgol Astudiaethau Nyrsio School of Nursing and
a Bydwreigiaeth Midwifery Studies
Prifysgol Cymru University of Wales
Bangor Bangor
Gwynedd Gwynedd
LL57 2EF LL57 2EF
Tel: +44 (0)1248 383165 Ffacs: +44 (0)1248 383114
|