Efallai fod gan eich ffrind ryw ddealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar mewn
atebolrwydd deiliaid tai!
Tim
-----Original Message-----
From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, July 04, 2001 10:56 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Gofalu am
Wedi bod yn edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru ac yn frysiog drwy'r
Mynegair i'r Beibl Cymraeg Newydd - mae enghreifftiau o 'gofalu dros' yn
Nhestament Newydd William Salesbury, gan gynnwys 'na ofelwch ... dros
drannoeth', lle mae 'dros' = 'ar gyfer'. Des i o hyd hefyd i ddwy
enghraifft yn y Beibl Newydd - y ddwy yn yr un llyfr, sy'n awgrymu efallai
mai gwaith yr un cyfieithydd ydynt(?) Ond 'gofalu am' sydd ym mhob
enghraifft arall.
Mae Bruce yn gweld 'gofalu dros' yn annaturiol ac yn ddiangen. Mae o'n
dymuno nodi hefyd nad yw 'gofalu am' yr un peth o gwbl a+ 'gofalu rhag'.
Mae meddwl am ofalu am ladron yn f'atgoffa i o sgwrs a gefais a+ ffrind wrth
adael y ty+:
Ffrind: Cofia ddiffodd y golau.
Fi: 'Dw i bob amser yn gadael golau ymlaen oherwydd lladron.
Ffrind: O, rhag ofn iddynt syrthio dros y dodrefn a brifo'u hunain?
Be' wnewch chi yma:
'Mae fy chwaer-yng-nghyfraith yn gofalu am ei hwyrion dros ei merch.'
Ann
|