Ystyr 'desktop' yn y cyd-destun cyfrifiadurol yw fod sgrin y cyfrifiadur
bellach yn fwrdd lle rydym yn gwneud ein gwaith.
Mae 'bwrdd gwaith' felly yn gysyniadol gywir - mae 'pen bwrdd' yn ddiystyr
ac yn gyfieithiad llythrennol o'r Saesneg.
'Bwrdd gwaith' sydd yng Ngeiriadur Termau Cyfrifiadureg' MEU hefyd.
Delyth Prys
----- Original Message -----
From: Llinell Gyswllt <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 20, 2001 3:05 PM
Subject: Re: desktop
> Fel ymateb i'ch e-bost, mae Geirfa Gyfrifiadol yn awgrymu naill ai
> 'pen-bwrdd' neu 'bwrdd gwaith' fel cyfieithiad o Desktop. Mae'n hefyd
> yn awgrymu 'cyhoeddi pen-bwrdd' ar gyfer 'Desktop Publishing'.
>
> Cofion,
> Siān
> -----Original Message-----
> From: Dafydd Roberts [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 20 July 2001 14:30
> To: [log in to unmask]
> Subject: desktop
>
>
> Desktop fel yn "Windows Desktop"
> neu "Desktop Publishing"
>
> Termiadur yn cynnig bwrdd gwaith
>
> Ond mae Cyhoeddi Bwrdd Gwaith yn swnio'n od i mi?
>
> Beth am: pen bwrdd Cyhoeddi pen bwrdd
>
> Be 'da chi'n ddefnyddio?
>
> Diolch,
>
> Dafydd
>
>
> [log in to unmask]
>
|