Rhaid dangos y gwrthrych, e.e.:
Talwyd y cyflogau gan y prif weithredwr
Gwnaed/gwnaethpwyd ef/hi yng Nghymru
Neu glymu'r gwrthrych i 'Fe':
Fe'u talwyd gan y prif weithredwr
Fe'i gwnaed/gwnaethpwyd yng Nghymru
Goddefol:
Cafodd ei wneud/ei gwneud yng Nghymru
Neu ddefnyddio 'wedi':
Wedi'i wneud/gwneud yng Nghymru
Jayne Mathias
Adran Hybu Iechyd/Health Promotion Division
Cynulliad Cenedlaethol Cymru/National Assembly for Wales
Rhif ffôn: 029 2082 5933
Rhif ffacs: 029 2082 5971
E-bost: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
-----Original Message-----
From: Bullock, David (OCG)
Sent: 11 June 2001 14:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Made in Wales
Ar gyfer rhywbeth fel tatw^, neu grys T, neu boster ac ati,
rwy'n credu bod
yr awgrym "Cymro i'r carn" yn llawer gwell na chwilio am
gyfieithiad.
O ran cystrawen "Gwnaed yng Nghymru", mae gen i ryw gof o
gael fy nysgu i
beidio â defnyddio berf amhersonol heb oddrych. Rhywbeth
fel hyn oedd y
rhesymu rwy'n credu...
Pan ddwedwn ni "Gorffennodd", ryn ni'n deall mai
"gorffennodd e" neu
"gorffennodd hi" yw hynny yn llawn, sef, "he finished", "she
finished" neu
"it finished" yn Saesneg.
Yn yr un modd wedyn, os dwedwn ni "Gorffennwyd", gallwn weld
mai "cafodd e
ei orffen" ("he was finished"), "cafodd hi ei gorffen" ("she
was finished")
(neu "it was finished") yw'r ystyr yn fanwl.
"Wedi'i wneud yng Nghymru" (neu "wedi'i gwneud" neu "wedi'u
gwneud") sy'n
cyfateb i'r gystrawen Saesneg "Made in Wales" felly.
Cofiwch, mae dyddiau ysgol yn pylu'n gyflym o'r cof, felly
mae'n ddigon
posibl 'mod i'n methu yn y fan hyn - rhowch wybod!
-----Original Message-----
From: Rhodri Llwyd Morgan
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 11 June 2001 13:54
To: [log in to unmask]
Subject: Made in Wales
Annwyl Bawb,
Mae'r ymadrodd ar gyfer person sy'n ei ddymuno fel tatw^, ac
yn cwyno bod
"gwnaethpwyd yng Nghymru" yn ormod o lythrennau (ac yn rhy
boenus neu'n rhy
gostus).
Beth fuasech chi'n ei awgrymu ar gyfer y cyd-destun
masnachol, yn ogystal a^
chais diddorol y cyfaill.
Diolch,
Rhodri
Rhodri Llwyd Morgan
Swyddog Ymchwil a Gwybodaeth / Research & Information
Officer
Bwrdd yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Board
Ffôn/tel: 029 2087 8000. Ffacs/fax: 029 2087 8001
E-bost/e-mail: [log in to unmask]
|