Ar gyfer rhywbeth fel tatw^, neu grys T, neu boster ac ati, rwy'n credu bod
yr awgrym "Cymro i'r carn" yn llawer gwell na chwilio am gyfieithiad.
O ran cystrawen "Gwnaed yng Nghymru", mae gen i ryw gof o gael fy nysgu i
beidio â defnyddio berf amhersonol heb oddrych. Rhywbeth fel hyn oedd y
rhesymu rwy'n credu...
Pan ddwedwn ni "Gorffennodd", ryn ni'n deall mai "gorffennodd e" neu
"gorffennodd hi" yw hynny yn llawn, sef, "he finished", "she finished" neu
"it finished" yn Saesneg.
Yn yr un modd wedyn, os dwedwn ni "Gorffennwyd", gallwn weld mai "cafodd e
ei orffen" ("he was finished"), "cafodd hi ei gorffen" ("she was finished")
(neu "it was finished") yw'r ystyr yn fanwl.
"Wedi'i wneud yng Nghymru" (neu "wedi'i gwneud" neu "wedi'u gwneud") sy'n
cyfateb i'r gystrawen Saesneg "Made in Wales" felly.
Cofiwch, mae dyddiau ysgol yn pylu'n gyflym o'r cof, felly mae'n ddigon
posibl 'mod i'n methu yn y fan hyn - rhowch wybod!
-----Original Message-----
From: Rhodri Llwyd Morgan [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 11 June 2001 13:54
To: [log in to unmask]
Subject: Made in Wales
Annwyl Bawb,
Mae'r ymadrodd ar gyfer person sy'n ei ddymuno fel tatw^, ac yn cwyno bod
"gwnaethpwyd yng Nghymru" yn ormod o lythrennau (ac yn rhy boenus neu'n rhy
gostus).
Beth fuasech chi'n ei awgrymu ar gyfer y cyd-destun masnachol, yn ogystal a^
chais diddorol y cyfaill.
Diolch,
Rhodri
Rhodri Llwyd Morgan
Swyddog Ymchwil a Gwybodaeth / Research & Information Officer
Bwrdd yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Board
Ffôn/tel: 029 2087 8000. Ffacs/fax: 029 2087 8001
E-bost/e-mail: [log in to unmask]
|