> 'Resolution' = pa mor fanwl ydy'r llun (h.y. faint o biscels, y mwya o
> bicsels mewn cm sgwâr - y mwya manwl ydy'r llun)
> 'High resolution' = manwl iawn (h.y. llawer o bicsels mewn cm sgwâr, felly
> mae'r llun yn gliriach)
>
> Os nad oes raid bod yn 'dra-thechnegol' a fyddai manwl, clir neu eglur yn
> ddigon yn Gymraeg? Mae angen yr 'high' yn Saesneg er mwyn ychwanegu'r
elfen
> ansoddeiriol - onid ffordd 'posh' (Americanaidd??) o ddeud bod rhywbeth yn
> glir iawn ydy deud bod ganddo 'high resolution'. Os oes raid pwysleisio'r
> manylder, ai manylder mawr ydy'r term naturiol neu glir neu eglur iawn?
> Dwn im!
>
> ----- Original Message -----
> From: jidaniel12 <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 11, 2001 4:14 PM
> Subject: Re: High resolution, image capture
>
>
> > Os yw 'manylder' yn golygu 'resolution', yna dylai 'high resolution
> images'
> > fod yn gyfystyr a 'delweddau tra manwl'.
> >
> > 'Image capture': oni ddylid treiglo, felly 'llunddala'? Llawer gwell na
> > 'cipio'.
> >
> > John Daniel
>
|