Tybed a ydych wedi edrych yng Nghynllun Iaith Gymraeg y Swyddfa Bost? Roedd
o'n gynllun manwl iawn a rhywun wedi gwneud job go dda ar ei gyfieithu
hefyd, yn fy marn i. Synnwn i ddim nad ydynt wedi bathu gair am mailshot yn
barod - gan fod dosbarth pethau o'r fath yn un o'r gwasanaethau y maent yn
eu cynnig. Holwch nhw! Os caf afael mewn copi - edrychaf a rho wybod i chi -
rwyf yn byw mewn swyddfa bost! ond dim ond byw yma, deall dim am y gwaith!
Yn bersonol, tueddu i ddweud llythyru neu rywbeth tebyg - llythyru bob ty
fydd y gwleidyddion ma i gyd yn ei wneud unrhyw funud rwan!
Magi Lewis
-----Original Message-----
From: Dafydd Roberts <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<[log in to unmask]>
Date: 06 April 2001 09:22
Subject: mailshot
>Oes awgrymiadau am mailshot (mail shot, mail-shot) yn lle post-dafliad sydd
>yn rhestr MEU?
>
>Beth am postgota postgotiad postgotyn ... ?
>
>Hwyl,
>
>Dafydd
>
|