"Davage, Linda" wrote:
>
> Unrhyw awgrymiadau ar gyfer 'capacity' yn yr ysgol?
Mae'r New Oxford Englisg Dictionary yn rhoi 3 'ystyr creiddiol' i capacity:
1 ...maximun amount that something can contain... : 'cynhwysedd' mae'r
Termiadur yn ei gynnig; mae hyn a thermau eraill megis
capacitance:cynhwysiant yn addas yng nghyd-destun ffiseg a thrydan. Mewn
cyd-destunau llai technegol fe all 'maint' fod yn addas. (Gweler Geiriadur
yr Academi.)
2 ...ability or power to do, understand or experience ... capacity for hard
work: 'gallu' mae'n debyg yn o^l y cyd-destun.
3. a specified role or position... in his capacity as a legal
correspondent: swydd neu swyddogaeth, eto yn o^l y cyd-destun a'r union
ystyr.
Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig cyfoeth o eiriau ac ymadroddion yn o^l
yr union ystyr a'r cyd-destun.
Prys
------------
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor
Gwynedd
LL57 2PX
tel +44 1248 382955/383013
ffacs +44 1248 383990
|