Annwyl Bawb,
O ganlyniad i led-breifateiddio'r Post Brenhinol, mae corff newydd wedi'i
sefydlu dan gochl Cyngor Defnyddwyr Cymru i warchod buddiannau'r cwsmer.
Enw'r corff yw Postwatch Cymru. Mae cynrychiolydd o'r corff wedi holi am
gymorth wrth gyfieithu disgrifiad cryno o waith y corff a fydd yn ymddangos
ar bapur pennawd a.y.y.b
Postwatch Cymru - The Watchdog for Postal Services
"Pwyllgor gwarchod" yw "Watchdog Committee" yn ôl Geiriadur Terminoleg
Trefniadaeth y Cynulliad.
Ar gyfer y fersiwn Cymraeg, a fyddai'r canlynol yn addas?
Postwatch Cymru - Corff Gwarchod Gwasanaethau Post
Diolch am bob cymorth,
Rhodri
Rhodri Llwyd Morgan
Swyddog Ymchwil a Gwybodaeth / Research & Information Officer
Bwrdd yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Board
Ffôn/tel: 029 2087 8000. Ffacs/fax: 029 2087 8001
E-bost/e-mail: [log in to unmask]
****************************************************
Llinell Gyswllt â'r Gymraeg/LinkLine to Welsh
DU/UK: 0845-607-6070
Tramor/Abroad: +44-(0)29-2087-8004
[log in to unmask]
****************************************************
|