Cytuno hefo Delyth. Personol fyddwn i'n ei ddefnyddio hefyd. Ni fedrwn i
feddwl am gyfieithu eich esiamplau heb aralleirio'r brawddegau. Mae geirfa
gofal yn gyfoethog iawn yn y Gymraeg ac yn perthyn i ni - nid yw'r Saeson yn
gofalu yn yr un ffordd! Gallaf ddychmygu mai "gofal personol" fyddai'r
ymadrodd mwyaf eglur ond nid wyf wedi gweld y ddogfen yn ei chyfanrwydd wrth
gwrs.
grooming - twtio fyddwn i'n ei ddefnyddio - ond dyna fo, Gog ydw i! Byddai
tacluso yr un mor dderbyniol. Gallaf glywed fy hun yn dweud wrth glaf pan
oeddwn yn nyrsio - "dowch i mi dwtio dipyn bach ar eich gwallt chi cyn i'r
fisitors ddod"! Efallai fod tacluso yn fymryn mwy cyffredinol na gwallt yn
unig!
toileting - defnyddio'r toiled
Rwyf bob amser yn edrych pa dermau mae CCETSW wedi'u defnyddio yn eu
gwahanol ddogfennau os wyf yn cyfieithu unrhyw ddarn yn ymwneud b gofal -
taro deg bob tro, chwarae teg iddynt - llawer o waith meddwl tu tl i'r
gwaith
Magi
-----Original Message-----
From: Lewis, John R (OCG) <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<[log in to unmask]>
Date: 23 January 2001 09:54
Subject: intimate care
Rwyf wrthi'n cyfieithu dogfen sy'n ymwneud b gwasanaethau gofal plant neu
bobl anabl. Mae'n cynnwys brawddegau fel hyn:
"A service so delivered may not include anything of an intimate nature....."
" A service is of an intimate nature if it involves...lifting, washing,
grooming, feeding, dressing, bathing, toileting....[or if it involves]
supervising the person whilst the person is dressing, bathing or using the
toilet"
Pa eiriau fyddech chi'n eu defnyddio i gyfieithu "intimate" , "grooming" a
"toileting"?
Yn tl Geiriadur Rhydychen ystyr "toileting" yw: "To assist or supervise (a
child, an invalid etc) in using a lavatory".
John Lewis
Y Gwasanaeth Cyfieithu Cyfreithiol
G-05, CP1, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
Fftn: 02920-825997 Ffacs: 02920-826101
e-bost: [log in to unmask]
|