Dw i ddim wedi cael achos i ddefnyddio 'intimate' yn yr ystyr hwn fy hun,
ond gan ddilyn diffiniad yr OED ohono fel 'closely personal' beth am
'personol agos'? Mae 'preifat' yn agos ati hefyd, ond efallai y byddai
defnyddio dau ansoddair gyda'i gilydd yn cyfleu 'intimate' yn well na jyst
'personol' neu 'preifat' ar eu pen eu hun gan fod cyfieithiadau eraill amlwg
iddynt.
Rwy wedi gorfod edrych ar y term 'grooming' o'r blaen, ac ar ôl i
f'ymdrechion 'ymdrwsio' ac 'ymdacluso' gael eu gwrthod fel rhy hen ffasiwn
ac annealladwy, penderfynwyd ar 'tacluso'. Y ddogfen dan sylw oedd
Dyfarniadau Gofal NVQ Lefel 2 a'r pwnc yn ateb yn union i'r hyn sydd gen ti
dan sylw. e.e. ceir 'Personal grooming and dressing: combing and brushing
hair, the application of make-up or other substances, dressing and
undressing'. 'Tacluso a gwisgo personol' sy'n cael ei ddefnyddio'n Gymraeg.
Byddwn i'n cyfieithu 'toileting' fel 'defnyddio'r toiled'. Dydi 'toileting'
fel term ddim yn codi yn y ddogfen dan sylw ond mae llawer o sôn am 'the use
of toilet facilities' a 'defnyddio cyfleusterau toiled' yw'r cyfieithiad a
ddefnyddiwyd.
Fe aeth tîm o arbenigwyr CCETSW a darlithwyr / aseswyr NVQ drwy'r ddogfen
hon â chrib fân, ac roedd ein trafodaethau yn ddifyr iawn.
Gobeithio fod hynna o ryw help.
Delyth
----- Original Message -----
From: Lewis, John R (OCG) <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 23, 2001 9:41 AM
Subject: intimate care
> Rwyf wrthi'n cyfieithu dogfen sy'n ymwneud â gwasanaethau gofal plant neu
> bobl anabl. Mae'n cynnwys brawddegau fel hyn:
>
> "A service so delivered may not include anything of an intimate
nature....."
>
> " A service is of an intimate nature if it involves...lifting, washing,
> grooming, feeding, dressing, bathing, toileting....[or if it involves]
> supervising the person whilst the person is dressing, bathing or using the
> toilet"
>
> Pa eiriau fyddech chi'n eu defnyddio i gyfieithu "intimate" , "grooming" a
> "toileting"?
>
> Yn ôl Geiriadur Rhydychen ystyr "toileting" yw: "To assist or supervise (a
> child, an invalid etc) in using a lavatory".
>
>
> John Lewis
> Y Gwasanaeth Cyfieithu Cyfreithiol
> G-05, CP1, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
> Ffôn: 02920-825997 Ffacs: 02920-826101
> e-bost: [log in to unmask]
>
|