Pan fo'r term yn ansoddeiriol, y mae angen rhyw arwydd gweledol i ddangos hyn. Nid yw unrhyw wahaniaeth tybiedig mewn ynghaniad yma nac acw - wedi'r cyfan, rydym wedi hen arfer ag 'ac/ag', 'nac/nag' heb beri cwymp y Gwareiddiad Gorllewinol Fel Yr Ydym Yn Ei Adnabod. Rydym wedi hen arfer gyda'r cyplysnod mewn fel 'di-lol' heb briodoli dynwarediad slafaidd o'r Saesneg 'no-nonsense'. Andrew ac Owen sy'n gywir.
>>> Andrew Hawke <[log in to unmask]> 01/09/01 06:12pm >>>
Cytunaf ag Owen Thomas yn hyn o beth. Yn sicr, lle mae 'ar-lein' yn
ansoddeiriol mae angen y cyplysnod.
Andrew
At 17:49 09/01/01 -0800, you wrote:
>ysgrifennodd Ann Corkett, [log in to unmask] ar 9/1/01 7:48 am:
>
>> Ar ran Bruce:
>>
>> Mae "ar lein" yn ddau air. 'Does dim angen cyplysnod.
>>
>> Ann Corkett
>> 5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, Cymru, LL57 2HS, UK.
>> 01248 371987
>> [log in to unmask]
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Reynolds, Diana (BIS) [SMTP:[log in to unmask]]
>> Sent: 09 January 2001 12:48
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Ar-lein neu arlein?
>>
>> Annwyl Bawb,
>>
>> Ar frys.. Oes angen cyplysnod (hyphen)?
>>
>> Pob hwyl!
>> Diana
>>
>> Diana Reynolds
>> ICT Strategy Programme, Communications and Briefing Manager
>> Uned Strategaeth TGC . ICT Strategy Unit (BIS)
>> Cynulliad Cenedlaethol Cymru . National Assembly for Wales
>> 029 2082 3190/07748773311
>> [log in to unmask]
>>> Visit our web-site at www.wales.gov.uk
>>>
>>
>Y mae 'ar lein' yn ddau air ond beth am yr arfer, sydd erbyn hyn yn bur
>gyffredin, o'i ddefnyddio yn ansoddeiriol, e.e. 'cwmni ar-lein' o'i
>gyferbynnu ^a'r frawddeg 'Mae'r cwmni yn gobeithio mynd ar lein erbyn mis
>Mawrth'?
>
>Owen Thomas
>
>
-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-
Andrew Hawke [log in to unmask] (01970)627513 (+44)1970 627513 (fx627066)
Golygydd Cynorthwyol/Rheolwr Systemau Asst. Editor/Systems Manager
Geiriadur Prifysgol Cymru University of Wales Dictionary
Llyfrgell Genedlaethol Cymru National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH, U.K.
URL: http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/
|