Cofnodir y gair hwn gyntaf yn Saesneg yn ystod y XVIg., yn fenthyciad o'r Lladin 'diaeta', gair o dras Roeg yn glygu cyfarfod cyhoeddus. Fe'i defnyddid i ddynodi cynulliadau ystadau neu dywysogion, ac felly mae 'cynulliad' yn drosiad purion yn mae 'cymanfa' yn awgrymu cyfarfod neu synod eglwysig. Ni welais y gair yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr honno erioed, ond wrth gwrs efallai fod enghreifftiau i'w cael mewn ffynonellau am hanes yr eglwys. Byddai gofyn am dystiolaeth gadarn cyn derbyn 'cymanfa' fel trosiad'.
Oherwydd y sillafiad canoloesol 'dieta', câi'i gymysgu â'r gair 'dies', neu 'diwrnod'. O ganlyniad, fe'i cyfieithwyd i'r Almaeneg fel 'Tag', sy'n rhoi geiriau fel *Landtag*, *Kirchentag*. *Parteitag* ac, wrth gwrs, *Reichstag*. Cyfieithir y term olaf hwn fel 'Senedd yr Almaen', sy'n ddigon teg, ond os felly rhai cywiro'r camgyfieithiad 'Cymanfa Worms' - 'Cymanfa Worms'. 'Der Reichstag zu Worms' yw'r Almaeneg, yn dynodi taw i ddinas Worms roedd yr Ymerawdwr Siarl V wedi galw'r Ystadau yn y flwyddyn honno. (Nid oedd cartref parhaol gan y Reichstag tan ar ôl y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain). P'un gan hynny a fyddai orau?
'Senedd Worms'
'y Senedd yn Worms'
'y *Reichstag* yn Worms'
Defnyddir y gair 'diet' i ddynodi'r *Sejm* ym Mhwyl, ac mae 'Senedd' yn drosiad digon teilwngyno hefyd.
Tim
|