Ar ran Bruce:
Nid yw "Ymgyngoredig(-ion)" nag "Ymholedig(ion)" yn fanwl gywir, oherwydd y dylai "ymholi" ac "ymgynghori" gael eu dilyn gan "a+", ond os nad oes modd osgoi hynny, gellid eu defnyddio.
Byddai "Holedig(ion)" yn iawn, ond ni fyddai "Y sawl a holwyd" neu "Y rhai a holwyd" yn cymryd llawer mwy o le, yn llai o bosibl, os gellid defnyddio dwy linell yn y tabl.
Am ryw reswm, cefais drafferth fawr wrth anfon hon, ac felly cael amser i ddangos y sylwadau eraill i Bruce. Felly dyma ragor o sylwadau:
Dywed David Bullock:
"Mae'r terfyniad "-ai" yn Gymraeg i'w weld yn cyfateb yn dda i'r Saesneg "-ee". Mae gan Peter Wynn Thomas nodyn arno yn Gramadeg y Gymraeg, tud 656."
Er gwaethaf yr hyn a ddywed P W Thomas, yn hanesyddol, yng ngeirfa hy+n y Gymraeg, nid grym goddefol oedd i'r terfyniad "-ai", ond grym gweithredol, ac anghywir yw honni'r gwrthwyneb, e.e. blotai (cardotwr/casglwr blawd), cawsai (cardotwr caws) gwestai, llatai, ayb. Y terfyniad sy'n cyfateb yn union i "-ee" yw "-edig", er fod hynny yn gallu cynhyrchu ffurfiau clogyrnaidd - "employee" = "gwas cyflogedig (nid cyflogai!). Tebyg ei bod yn rhaid derbyn "talai" bellach, er mai "talwr" yw ei ystyr cywir.
Ann Corkett
5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, Cymru, LL57 2HS, UK.
01248 371987
[log in to unmask]
-----Original Message-----
From: Non Tudur [SMTP:[log in to unmask]]
Sent: 12 January 2001 15:55
To: [log in to unmask]
Subject: Consultee(s)
Beth fydd pobl yn ei roi am hwn? Dwi wastad wei'i sgwennu mewn ffordd hir iawn ('sawl yr ymgynghorir a* nhw' ayb) ond y tro hwn mae'n rhaid i mi gael rhywbeth byrrach (un gair os posib) i'w roi yn bennawd ar dabl. Nid 'ymgynghorydd' wrth reswm. Wedi meddwl am roi 'ymatebwr' achos mudiadau sy'n ymateb i ddogfen ymgynghori fyddan nhw, ond byddai'n well gen i wybod beth mae'r lleill yn ei ddefnyddio, yn arbennig y Cynulliad.
Diolch am unrhyw gymorth.
Non Tudur ac Elliw Lly^n
|