Ydyn nhw, wir? Bydd raid i mi gnoi cil ar hyn. Diolch am y wybodaeth!
>>> Elin Meredith <[log in to unmask]> 12/07/00 12:35pm >>>
Efallai wir! Mae 'penodedig' neu 'benodol ...' yn cael eu defnyddio am
'dedicated' hefyd onid yden?
----- Original Message -----
From: Tim Saunders <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 07, 2000 11:32 AM
Subject: Re: stand-alone unit
Efallai'i fod, gan nad yw'n amlwg o'r term bod y ddyfais yn gweithredu i
raddau sylweddol ar wahan i ddyfeisiadau eraill ... OND ...
Tybed a ydych wedi datrys problem y gair pigog o gyfrwys yna 'dedicated',
fel ag yn 'dedicated line', 'dedicated office'?
>>> Elin Meredith <[log in to unmask]> 12/07/00 11:08am >>>
Ydy rhywbeth fel 'uned bwrpasol', h.y. at un pwrpas penodol yn rhy annelwig
a phell oddi wrth yr ystyr Saesneg?
----- Original Message -----
From: Tim Saunders <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 07, 2000 10:12 AM
Subject: Re: stand-alone unit
Annwyl Rhodri,
Hmmm ... gallaf weld dadleuon ar y dwy ochr. Ydy, y mae 'uned arunig' yn
ddieithr i'r sawl sydd heb weld yr ymadrodd o'r blaen, ond felly hefyd y mae
pob ymadrodd newydd - gan gynnwys 'uned a saif ar ei phen ei hun'. Ar ben
hynny, fe allai'r ddyfais dan sylw fod yn gwneud pob math o bethau, fel
gorwedd, hongian, ayyb. Mae llawer i'w ddweud o blaid rhywbeth cryno sydd
ddim yn gamarweiniol, wedi'r cyfan.
Tim
>>> Cyswllt <[log in to unmask]> 12/07/00 10:00am >>>
Annwyl Tim,
Mae'r Termiadur yn cynnig "arunig" ar gyfer "Stand Alone".
Tybed a yw "Uned arunig" yn rhy ddieithr?
Rhodri
****************************************
Llinell Gyswllt â'r Gymraeg/Link Line to Welsh
DU/UK: 0845-607-6070
Tramor/Abroad: +44-(0)29 2087 8004
[log in to unmask]
****************************************
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
including [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Tim
Saunders
Sent: Thursday, December 07, 2000 9:21 AM
To: [log in to unmask]
Subject: stand-alone unit
AAAAAAAAAAARRRRRRRRRRRRRRRRRRGGGGGGGGGGGGGGGGGGGGGGHHHHH!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!
!!!!!
Unrhyw gynigion?
|