Annwyl Non
Rho rhyw ddiwrnod i mi feddwl am hwn. Paid b chael dy hudo gan gysyniadau
digon Americanaidd pan fo merched Cymru wedi bod yn rhoi genedigaeth drwy'r
oesoedd heb unrhyw un yn dweud wrthynt sut i wneud hynny. Meddyliaf am y
peth yng nghyd destum dy eglurhad a'm ugain mlynedd o brofiad fel bydwraig!
Roeddwn yn meddwl ein bod wedi hen ennill y dydd i ferched bellach! Hola
Gwerfyl Roberts ym Mangor - Ysgol Astudiaethau Nyrsio - hi yw'r arbenigwraig
ar y mater.
Magi Lewis
-----Original Message-----
From: Non Tudur <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<[log in to unmask]>
Date: 19 December 2000 17:06
Subject: ACTIVE BIRTH
Nid yw hwn yn derm sefydledig. Mae dynes o'r enw Julie Gritten yn ardal
Llanfrothen yn cynnig dosbarthiadau 'Antenatal Classes', 'Partner Birth
preparation classes', 'Waterbirth information and pool', 'birth
counselling', a 'Breastfeeding'.
Eu bwriad yw addysgu menywod sy'n disgwyl ar roi genedigaeth, ac 'active
birth' yw'r teitl y mae wedi'i ddewis ar gyfer ei dosbarthiadau. Gofynnais
iddi am eu cynnwys ac roedd hi'n eu disgrifio fel 'Childbirth Education', yn
rhoi hyder i ferched sy'n disgwyl babi i wneud eu penderfyniadau eu hunain
pan fyddant yn mynd i'r ysbyty i roi genedigaeth, megis am gyffuriau a.y.b.,
ac i 'take away their fear' wrth fod yn feichiog (yn enwedig merched ifanc).
Mae wedi'i alw'n 'active birth' gan fod y broses o addysgu mewn ysbytai wedi
cael ei alw'n 'active management of birth', ond nid oedd hi na rhai o'r
bydwragedd y mae hi'n cysylltu b nhw yn awyddus i ddefnyddio'r term
anghynnes 'management'. Mi nath hi gynnig y gellid newid y term 'active' i
rywbeth fel 'choice' (h.y. birth choices) neu 'confidence', neu 'power' hyd
yn oed! Meddyliais am 'geni b hyder / hyder wrth roi genedigaeth (rhy hir),
neu rywbeth fel 'dysgu am enedigaeth'? Mi fydd y cyfieithiad ar boster,
felly mi fyddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gynigion neu syniadau mwy bachog.
Diolch yn fawr
Non Tudur ac Elliw Lly^n
Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir
yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw
hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
chopoo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of
the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
only. Its contents may be confidential. If you have received this message in
error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying,
disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
|